Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 21 Medi 2020
Amser:
09.30 -
12.13
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6467
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS David Melding AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Y Gweinidog fydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd Dr Robert Parry, Llywodraeth Cymru Chris Warner, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Craig Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer y Farchnad Fewnol a gwaith craffu cyffredinol ar ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â gadael yr UE: Sesiwn dystiolaeth
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol ar gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer y Farchnad Fewnol, a materion eraill ynghylch deddfwriaeth sy’n ymwneud â gadael yr UE.
3 Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
3.1 SL(5)606 – Rheoliadau’r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
4.1 SL(5)605 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
4.2 SL(5)607 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.3 SL(5)602 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.4 SL(5)616 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. At hynny, nododd y Pwyllgor fod yr offeryn wedi ei ddirymu gan y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, a osodwyd gerbron y Senedd ar 18 Medi 2020.
5 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
5.1 SL(5)574 – Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Asesu Cymesuredd Proffesiynau Rheoleiddiedig (Cymru) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i’w adroddiad ar Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Asesu Cymesuredd Proffesiynau Rheoleiddiedig (Cymru) 2020.
5.2 SL(5)592 – Rheoliadau Marchnata Hadau, Planhigion a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2020
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i’w adroddiad ar Reoliadau Marchnata Hadau, Planhigion a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2020.
5.3 SL(5)603 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
6 Is-ddeddfwriaeth sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7
6.1 SL(5)613 – Hysbysiad Addasu Gofynion y Cwricwlwm yng Nghymru 2020
Trafododd y Pwyllgor yr Hysbysiad a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau a nodwyd o dan Reol Sefydlog 21.7.
7 Offerynnau statudol y mae angen i’r Senedd gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol)
7.1 SICM(5)29 - Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ac roedd yn fodlon arno. Nododd y Pwyllgor y dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef 29 Medi 2020, a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.
8 Papurau i’w nodi
8.1 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Amaethyddiaeth
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
8.2 Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. At hynny, nododd y Pwyllgor y llythyrau gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at yr Arglwydd Lefarydd a’r Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach.
8.3 Llythyr gan y Prif Weinidog: Craffu ar reoliadau sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd - Protocol rhwng Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Senedd Cymru
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.
8.4 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Cytundeb Rhyng-sefydliadol - Cyfarfodydd Gweinidogol Adolygiad Cysylltiadau Rhynglywodraethol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.
9 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
10 Cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer y Farchnad Fewnol a gwaith craffu ar ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â gadael yr UE: Trafod y dystiolaeth
Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol ar gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer y Farchnad Fewnol, a gwaith craffu ar ddeddfwriaeth yn ymwneud ag ymadael â'r UE.
11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd: Trafod yr adroddiad drafft
Ystyriodd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar yr Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd a chytunodd i gadarnhau'r newidiadau terfynol y tu allan i'r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 24 Medi 2020.
12 Y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a chytunodd i drafod drafft arall yn y cyfarfod nesaf.